
Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno diwygiadau (ar 4 Mawrth 2025) i'r Bil Hawliau Cyflogaeth yn dilyn wythnosau o ymgynghori ac ymatebion gan grwpiau busnes, undebau llafur a’r gymdeithas sifil ehangach.
Bydd y Bil hwn yn ymestyn yr amddiffyniadau cyflogaeth a roddwyd eisoes gan y cwmnïau gorau ym Mhrydain i filiynau yn fwy o weithwyr.
Mae'r diwygiadau'n rhoi ystyriaeth ofalus i wahanol safbwyntiau ac anghenion gweithwyr, busnesau a'r economi gyfan ac yn ceisio cyflwyno mesurau sy'n cefnogi'r cydfuddiannau sydd eu hangen i hybu economi fodern sy'n tyfu.
Daw’r diwygiadau yn dilyn ymatebion a gafwyd i bum ymgynghoriad gan y Llywodraeth:
- Cyflwyno mesurau contractau dim oriau i weithwyr asiantaeth
- Cryfhau rhwymedïau yn erbyn cam-drin rheolau ar ddileu swyddi torfol
- Creu Fframwaith Modern ar gyfer Cysylltiadau Diwydiannol
- Cryfhau Tâl Salwch Statudol
- Mynd i'r afael â diffyg cydymffurfio ym marchnad y cwmnïau ambarél
Er mwyn i fusnesau ffynnu rhaid iddynt allu gweithredu mewn marchnad deg. Bydd yr Asiantaeth Gwaith Teg yn cymryd camau cryf yn erbyn cyflogwyr twyllodrus sy'n camfanteisio ar eu gweithwyr, a bydd yn darparu gwell cefnogaeth i'r mwyafrif o fusnesau sydd am drin eu staff yn dda.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Employment Rights Bill to boost productivity for British workers and grow the economy - GOV.UK