
Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth, a gynhelir ar 9 Hydref 2025 ac ymgyrch #TiciorBlwch yn gyfle i elusennau ledled y DU gynyddu’r ymgysylltiad â Rhodd Cymorth.
Beth bynnag yw diben eich elusen, Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yw'r diwrnod y byddwch chi'n atgoffa'ch cefnogwyr pa mor bwysig yw #TiciorBlwch trwy:
- Rannu'r effaith enfawr y mae Rhodd Cymorth yn ei chael ar fuddiolwyr a chymunedau.
- Hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o Rhodd Cymorth.
- Dangos pam ei bod mor bwysig i #TiciorBlwch.
I baratoi ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth eleni ar gyfer eich elusen, lawrlwythwch y pecyn cymorth cyfryngau cymdeithasol lle byddwch yn dod o hyd i asedau Cymraeg a Saesneg i'w defnyddio ar y diwrnod.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Charity Finance Group | Gift Aid Awareness.