Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang (GAAD) ar 21 Mai 2026.
Pwrpas GAAD yw i gael pawb i siarad, meddwl a dysgu am fynediad a chynhwysiant digidol.
Mae pob defnyddiwr yn haeddu profiad digidol o'r radd flaenaf ar y we. Yr ymwybyddiaeth hon a'r ymrwymiad i gynhwysiant yw nod GAAD, sef digwyddiad byd-eang sy'n taflu goleuni ar fynediad a chynhwysiant digidol i bobl anabl.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Home - GAAD (accessibility.day).