
Cynhaliwyd Diwrnod y Ddaear am y tro cyntaf yn 1970. Ers hynny, mae EARTHDAY.ORG wedi bod yn ysgogi dros 1 biliwn o bobl bob blwyddyn ar Ddiwrnod y Ddaear, a phob diwrnod arall, i ddiogelu'r blaned.
Ar gyfer Diwrnod y Ddaear 2025, a gynhelir ar 22 Ebrill, y thema yw 'Ein Pŵer, Ein Planed', gan wahodd pawb ledled y byd i uno y tu ôl i ynni adnewyddadwy, ac i dreblu faint o drydan glân a gynhyrchir yn fyd-eang erbyn 2030.
Edrychwch ar Earth Hub am adnoddau fel newyddion, datganiadau i'r wasg, pecynnau cymorth, taflenni ffeithiau, posteri, a mwy.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Earth Day 2025
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar y bobl a’r llefydd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel. Dysgwch fwy yma: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru)