Newyddion

Diwrnod Twristiaeth y Byd 2026

tourist and digital map of the world

Bob blwyddyn ar 27 Medi caiff Diwrnod Twristiaeth y Byd ei ddathlu, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r rôl bwysig y mae twristiaeth yn ei chwarae wrth feithrin gwerthoedd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol ledled y byd.

Mae twristiaeth wedi esblygu drwy arloesedd erioed, a Deallusrwydd Artiffisial fydd ei drawsnewidiad mawr nesaf. Thema eleni yw 'Yr Agenda Ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial i Ailddylunio Twristiaeth'.

Bydd Diwrnod Twristiaeth y Byd 2026 yn archwilio sut y gall deallusrwydd artiffisial helpu i greu twristiaeth fwy craff, cynhwysol a chynaliadwy trwy wella gwneud penderfyniadau, cryfhau sgiliau, a gwella'r ffordd y mae cyrchfannau’n cael eu defnyddio a'u rheoli.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: World Tourism Day 2026 | UN Tourism.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am ddeallusrwydd artiffisial? Mae Busnes Cymru yn cynnal amrywiaeth o weminarau a digwyddiadau, dewiswch y ddolen ganlynol Digwyddiadur Busnes Cymru, chwiliwch i gofrestru a darganfod mwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.