
Bob blwyddyn ar 27 Medi caiff Diwrnod Twristiaeth y Byd ei ddathlu dros y byd i gyd, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r rôl bwysig y mae twristiaeth yn ei chwarae wrth feithrin gwerthoedd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol ledled y byd.
Mae Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig (UNWTO) yn asiantaeth arbennig o'r Cenhedloedd Unedig a sefydlwyd i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy, gyfrifol a hygyrch i bawb.
Bob blwyddyn, mae Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig yn penderfynu ar thema i ddathlu Diwrnod Twristiaeth y Byd. Thema eleni yw ‘Twristiaeth a Thrawsnewid Cynaliadwy’.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: World Tourism Day 2025: Tourism and Sustainable Transformation
Mae Busnes Cymru yma i helpu busnesau twristiaeth Cymru i wireddu eu huchelgais gwyrdd. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Twristiaeth Gynaliadwy Cymru