Cyhoeddwyd Diwrnod Rhyngwladol Ynni Glân, sy’n cael ei ddathlu ar 26 Ionawr bob blwyddyn, gan y Cenhedloedd Unedig fel galwad i godi ymwybyddiaeth a sbarduno pobl i weithredu dros newid teg a chynhwysol i ynni glân er budd pobl a'r blaned.
Mae'n tynnu sylw at yr angen i symud i ffwrdd o danwydd ffosil er mwyn lleihau allyriadau, gwella diogelwch ynni, a chefnogi datblygiad economaidd a chymdeithasol ledled y byd. I fusnesau a sefydliadau, mae'r diwrnod hwn yn atgyfnerthu rôl arferion gweithredol, cydymffurfiaeth a diogelwch cryf o ran ein galluogi i newid i ynni glân teg a dibynadwy.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: International Day of Clean Energy | United Nations.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at fod yn fwy cynaliadwy, arddangos yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar y bobl a’r llefydd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel. Cofrestrwch heddiw: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru.