Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol y Mudwyr 2025

International people

Bob blwyddyn ar 18 Rhagfyr, mae'r byd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Mudwyr, diwrnod sydd wedi'i neilltuo i gydnabod cyfraniad pwysig mudwyr ac yn tynnu sylw at yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu.

Mae mudo wedi bod yn rhan hanfodol a chyfoethog o gymdeithasau erioed, gan gyfrannu at gryfder a gwydnwch poblogaethau a meithrin economi sy'n canolbwyntio ar lesiant i bawb.

Mae thema eleni, 'Fy Stori Fawr: Diwylliannau a Datblygu', yn tynnu sylw at sut mae symudedd dynol yn ysgogi twf, yn cyfoethogi cymdeithasau, ac yn helpu cymunedau i gysylltu, addasu a chefnogi ei gilydd.

Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol:

Mae bod yn fusnes cyfrifol yn golygu bod o fudd i'r bobl a'r lleoedd o'ch cwmpas yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eich busnes a gallwch wneud gwahaniaeth trwy gymryd rhan yn eich cymuned leol. Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Busnes cyfrifol | Busnes Cymru (llyw.cymru).


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.