Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026

woman with hands extended - giving

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cael ei ddathlu ar 8 Mawrth bob blwyddyn, ac mae’n ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.

Mae’r diwrnod hefyd yn alwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Gwelir gweithgarwch sylweddol ledled y byd wrth i grwpiau ddod ynghyd i ddathlu cyflawniadau menywod neu ymgyrchu dros degwch i fenywod.

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2026 yw 'Rhoi i Ennill' sy’n ymgyrch i annog meddylfryd o haelioni a chydweithio.

Mae 'Rhoi i Ennill’ yn pwysleisio pŵer cyfnewid rhwng ein gilydd a chefnogi’n gilydd. Pan fydd pobl, sefydliadau a chymunedau'n rhoi’n hael, mae cyfleoedd a chefnogaeth i fenywod yn cynyddu.

P'un ai trwy roddion, gwybodaeth, adnoddau, seilwaith, gwelededd, eiriolaeth, addysg, hyfforddiant, mentora, neu amser, mae cyfrannu at ddatblygiad menywod yn helpu i greu byd mwy cefnogol a rhyng-gysylltiedig.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: IWD: International Women's Day 2026 theme is 'Give To Gain'.

Galw ar ferched Cymru: Cymerwch y camau cyntaf tuag at ddechrau busnes ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Ymunwch â Syniadau Mawr Cymru ar gyfer gweithdy cyffrous, Merched i Fusnes,  a gynhelir ledled Cymru ar 10 Mawrth 2026. A gyflwynir ym Mangor, Y Drenewydd a Blaenau Gwent, gyda ffrwd fyw yn cysylltu pob lleoliad. Archebwch nawr.

Cefnogi Merched yng Nghymru: Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn cydnabod pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid benywaidd i economi Cymru. Darganfyddwch fwy: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (llyw.cymru).


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.