Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025

woman flexing arm

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD) yn cael ei ddathlu ar 8 Mawrth bob blwyddyn, ac mae’n ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae'r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhywedd. Gwelir gweithgarwch sylweddol ledled y byd wrth i grwpiau ddod at ei gilydd i ddathlu cyflawniadau menywod neu ymgyrchu ar gyfer cydraddoldeb menywod.

Thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025 yw 'Cyflymu Gweithredu'.

Mae Cyflymu Gweithredu’n alwad fyd-eang i gydnabod y strategaethau, yr adnoddau a'r gweithgareddau sy'n cael effaith gadarnhaol ar hyrwyddo menywod, ac i gefnogi a dyrchafu’r gwaith o fynd ati i weithredu’r strategaethau, yr adnoddau a'r gweithgareddau hynny.

Mae yna rwystrau sylweddol i gydraddoldeb rhywedd o hyd, ond gyda'r camau a'r gefnogaeth gywir, gellir gwneud cynnydd cadarnhaol ar ran menywod ym mhobman.

Fel unigolion, gallwn ni i gyd gymryd camau yn ein bywydau bob dydd i gael effaith gadarnhaol ar hyrwyddo menywod.

Gallwn dynnu sylw at y defnydd o ystrydebau, herio gwahaniaethu, cwestiynu rhagfarn, dathlu llwyddiant menywod, a llawer mwy. Hefyd, mae’n allweddol ein bod yn rhannu ein gwybodaeth a'n hanogaeth gydag eraill.

Dysgwch fwy am thema ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025 yma: IWD: IWD 2025 campaign theme is 'Accelerate Action'

Boed chi’n cynnal digwyddiad, cynnal ymgyrch, lansio menter, rhoi gwybod am gyflawniad, cyfrannu i elusen sy'n canolbwyntio ar fenywod, neu fwy - mae yna lawer o ffyrdd y gall grwpiau ac unigolion nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Am fwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: IWD: IWD: About International Women's Day (internationalwomensday.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.