Bob blwyddyn ar 1 Hydref, mae pobl ledled y byd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd a heriau sy'n wynebu poblogaethau sy'n heneiddio, ac i ysgogi'r gymuned ehangach i fynd i'r afael â'r anawsterau mae pobl hŷn yn eu hwynebu.
Thema’r DU eleni yw "Beth sydd ar eich stepen drws?".
P'un a ydych chi'n awdurdod lleol, elusen, grŵp cymunedol, busnes, cartref gofal neu breswylydd lleol, nodwch Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn mewn ffordd sy'n adlewyrchu eich cymuned.
Gall cyflogwyr gofrestru ar gyfer yr Adduned Cyflogwr sy'n Dda i Bobl Hŷn, mae'n ymrwymiad a wneir gan gyflogwyr i ddathlu gwerth gweithwyr hŷn. Mae'n rhad ac am ddim i gofrestru ac mae'n agored i gyflogwyr ledled y DU.
Cymerwch gamau syml, ymarferol i wella recriwtio, cadw a datblygiad pobl dros 50 oed.
Am fwy o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol: