Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn 2025

Mature office worker

Bob blwyddyn ar 1 Hydref, mae pobl ledled y byd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd a heriau sy'n wynebu poblogaethau sy'n heneiddio, ac i ysgogi'r gymuned ehangach i fynd i'r afael â'r anawsterau mae pobl hŷn yn eu hwynebu.

Thema’r DU eleni yw 'Meithrin Ymdeimlad o Berthyn: Dathlu pŵer ein cysylltiadau cymdeithasol'.

P'un ai eich bod yn awdurdod lleol, elusen, grŵp cymunedol, busnes, cartref gofal, neu’n breswylydd lleol, efallai y cewch eich ysbrydoli gan enghreifftiau o ddathliadau’r gorffennol neu gallwch ddefnyddio rhai o'r syniadau isod:

  • Dathlu’r holl ffyrdd y mae eich cymuned yn creu cyfleoedd ar gyfer cysylltiad cymdeithasol.
  • Gwneud rhywbeth newydd sy'n galluogi cysylltiad cymdeithasol ar y diwrnod.
  • Cynllunio a chymryd camau i alluogi mwy o gysylltiad cymdeithasol yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: International Day of Older People – 1 October 2025 | Centre for Ageing Better

Mae gan GOV.UK ganllawiau ynglŷn â chyflogi gweithwyr hŷn a rhai sy’n gweithio heibio 50 oed. Mae wedi'i anelu at gyflogwyr, sy'n elwa o gyflogi pobl hŷn a phobl hŷn sydd eisiau mynd yn ôl i'r gwaith neu aros mewn gwaith yn hirach.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.