Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg 2021

Bydd Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg yn cael ei gynnal ar 23 Mehefin 2021. Ymgyrch ymwybyddiaeth ryngwladol yw'r diwrnod i godi proffil menywod ym maes peirianneg ac mae’n hoelio sylw ar y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael i ferched yn y diwydiant hwn.

Mae’n dathlu llwyddiannau nodedig peirianwyr benyw ledled y byd. Os yw eich busnes am gymryd rhan, ewch i wefan Diwrnod Rhyngwladol Menywod ym maes Peirianneg am wybodaeth ac adnoddau.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.