Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg 2026

Female engineer

Bob blwyddyn ar 23 Mehefin, mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg (INWED) yn dathlu cyflawniadau rhagorol peirianwyr benywaidd ledled y byd ac yn rhoi sylw i’r cyfleoedd y mae peirianneg yn eu creu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Wedi'i gyflwyno gan Gymdeithas Peirianneg y Menywod, mae INWED yn fudiad byd-eang sy'n hyrwyddo amrywiaeth, arloesedd a chynhwysiant ar draws y sector peirianneg. O dan thema 2026, bydd Deallusrwydd Peirianneg/Engineering Intelligence, yn dod â sefydliadau, addysgwyr, arweinwyr diwydiant a chymunedau ynghyd i arddangos yr arbenigedd, y creadigrwydd a'r arweinyddiaeth y mae menywod yn eu cyfannu i beirianneg bob dydd.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg.

Cefnogi Merched yng Nghymru: Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn cydnabod pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid benywaidd i economi Cymru. Darganfyddwch fwy: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (llyw.cymru).


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.