
Bydd Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg (INWED), ar 23 Mehefin, yn dathlu ei 12fed blwyddyn yn 2025 a bydd unwaith eto’n hyrwyddo'r gwaith anhygoel y mae peirianwyr benywaidd ledled y byd yn ei wneud.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg yn tynnu sylw at beirianwyr benywaidd ar draws y byd a hwythau’n dal i gael eu tangynrychioli’n aruthrol, gyda ffigurau 2021 yn nodi mai dim ond 16.5% o beirianwyr y DU sy’n fenywod. Fel yr unig blatfform o'i fath, mae'r diwrnod yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymdrech i annog mwy o fenywod a merched ifanc i ddechrau gyrfaoedd mewn peirianneg.
Thema eleni yw #PeiriannuGydanGilydd #TogetherWeEngineer.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg #INWED24
Cefnogi Merched yng Nghymru: Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)