Mae’r Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth yn fudiad byd-eang ac fe’i gynhelir ar 11 Chwefror bob blwyddyn.
Caiff #February11 ei ddathlu'n fyd-eang mewn gwahanol ffyrdd. Bydd eich camau gweithredu yn ychwanegu at y lleisiau cyfunol ar gydraddoldeb mewn gwyddoniaeth.
Nod Menywod Cymru mewn STEM yw amlygu a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n wynebu menywod sy'n gweithio ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae'n dod â'r rheiny sy'n gweithredu newid yn y sector, a'r rheiny sy'n gweithio i greu amgylchedd cadarnhaol, ynghyd lle gall menywod a merched ffynnu drwy gydol eu gyrfaoedd.
I gael mwy o wybodaeth am Fenywod Cymru mewn STEM, cliciwch ar y ddolen ganlynol: CY Wales Women in STEM - Prifysgol De Cymru.
Cefnogi Merched yng Nghymru: Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales).