Mae Diwrnod Rhyngwladol Dim Gwastraff, sy’n cael ei drefnu ar y cyd gan Raglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP) a Rhaglen Aneddiadau Dynol y Cenhedloedd Unedig (UN-Habitat), yn tynnu sylw at bwysigrwydd cryfhau’r rheolaeth ar wastraff yn fyd-eang a'r angen i annog defnydd a phatrymau cynhyrchu cynaliadwy i fynd i'r afael â'r argyfwng llygredd gwastraff.
Bob blwyddyn, mae’r ddynoliaeth yn cynhyrchu rhwng 2.1 biliwn a 2.3 biliwn tunnell o wastraff solet trefol. Oni wneir rhywbeth ar fyrder, bydd cynhyrchiant gwastraff blynyddol yn cyrraedd 3.8 biliwn tunnell erbyn 2050.
Thema 2026: Gwastraff Bwyd
Mae'r drefn eleni yn canolbwyntio ar wastraff bwyd, sy’n ysgogydd niwed amgylcheddol hollbwysig ond y gellir ei atal.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: International Day of Zero Waste 2026.