
Mae Diwrnod Rhyngwladol Dim Gwastraff, 30 Mawrth, sy’n cael ei drefnu ar y cyd gan Raglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP) a Rhaglen Aneddiadau Dynol y Cenhedloedd Unedig (UN-Habitat), yn tynnu sylw at bwysigrwydd cryfhau’r rheolaeth ar wastraff yn fyd-eang a'r angen i annog defnydd a phatrymau cynhyrchu cynaliadwy i fynd i'r afael â'r argyfwng llygredd gwastraff.
Bob blwyddyn, mae’r ddynoliaeth yn cynhyrchu rhwng 2.1 biliwn a 2.3 biliwn tunnell o wastraff solet trefol (MSW). Oni wneir rhywbeth ar fyrder, bydd cynhyrchiant gwastraff blynyddol yn cyrraedd 3.8 biliwn tunnell erbyn 2050.
Mae'r thema eleni, Towards zero waste in fashion and textiles, yn canolbwyntio ar yr angen brys i weithredu er mwyn lleihau effaith gwastraff y sector ffasiwn a thecstilau ac i hyrwyddo cynaliadwyedd a chylchogrwydd.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: International Day of Zero Waste 2025
Mae'r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd.
Pan ymunwch â’r Addewid Twf Gwyrdd, bydd gofyn i'ch busnes ymrwymo i un neu fwy o gamau cadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd yn ogystal â sicrhau eich bod yn perfformio yn gynaliadwy. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru