Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Dim Bagiau Plastig 2025

person holding a plastic bag and a cloth shopping bag

Ar 3 Gorffennaf bydd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Dim Bagiau Plastig, a’r nod yw gwella ymwybyddiaeth pobl o effeithiau niweidiol bagiau plastig untro ar yr amgylchedd. Mae'r ymgyrch yn annog pobl, busnesau a llywodraethau i ddewis opsiynau amgen ac ecogyfeillgar er mwyn lleihau llygredd plastig: 

Ar 30 Hydref 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gam 1 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023, deddf sydd â’r nod o fynd i'r afael â llygredd plastig a chyflawni ein hymrwymiad i atal y defnydd o gynhyrchion plastig untro sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel. Y bwriad yw cyflwyno Cam 2 erbyn Gwanwyn 2026, a bydd yn cynnwys gwaharddiadau ar:

  • Fagiau siopa – gydag eithriadau ar gyfer cig, dofednod neu bysgod amrwd a bwyd sydd heb ei becynnu
  • Caeadau polystyrene ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê
  • Cynnyrch plastig ocso-ddiraddadwy.

Er mwyn dod i ddeall sut mae'r ddeddf yn gweithio a sut y gallai effeithio arnoch chi, mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 | LLYW.CYMRU

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd. Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, mae gofyn i’ch busnes ymrwymo i o leiaf un weithred gadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd drwy sicrhau perfformiad chynaliadwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.