Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu Ar Sail Hil 2026

smiling woman in a cafe

Bydd Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu Ar Sail Hil yn digwydd ar 21 Mawrth 2026.

Dyma ddigwyddiad blynyddol a sefydlwyd yn dilyn datganiad gan y Cenhedloedd Unedig ym 1966: International Day for the Elimination of Racial Discrimination | United Nations.

Wrth gyhoeddi'r diwrnod, galwodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar y gymuned ryngwladol i ymdrechu’n galetach i ddileu pob math o wahaniaethu ar sail hil.

Mae'r diwrnod yn ein hatgoffa bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i fod yn sefydliad gwrth-hiliol.

I ddysgu beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu Cymru wrth-hiliol, ewch i: Cymru Wrth-hiliol: cefndir | LLYW.CYMRU

Mae’r Addewid Cydraddoldeb yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at greu gweithle cynhwysol, teg ac amrywiol, gan arddangos eu hymrwymiad i’w gweithwyr a’r gymuned ehangach a chynnig cynnyrch a gwasanaethau hygyrch i bawb: Addewid Cydraddoldeb | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.