Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod

Mae 25 Tachwedd 2021 yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod a’r Diwrnod Rhuban Gwyn (WRD), a’r 16 diwrnod o ddiddymu trais yn erbyn menywod sy’n dilyn.

Mae WRD yn gofyn i bobl yn eu cymunedau, sefydliadau a gweithleoedd, i ddod at ei gilydd a dweud ‘na’ wrth drais yn erbyn menywod. #AllManCan yw’r brif neges eleni ac mae WRD am weld cynifer o ddynion â phosibl yn meddwl yn ofalus a gwneud yr Addewid Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu gadw’n ddistaw am drais gan ddynion yn erbyn menywod.

Mae mwy o wybodaeth yma Diwrnod Rhuban Gwyn 2021 — White Ribbon UK.

Fel cyflogwr, gallwch wneud cyfraniad pwysig at roi sicrwydd i staff sy’n dioddef trais neu gam-drin domestig bod cymorth ar gael, gan gynnwys cymorth ar-lein, llinellau ffôn cymorth, llochesau a’r heddlu.

Gall ‘Byw Heb Ofn’ Llywodraeth Cymru gynnig cymorth a chyngor i:

  • unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig
  • unrhyw un sy’n adnabod rhywun sydd angen cymorth, er enghraifft, ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr
  • ymarferwyr sy’n gofyn am gyngor proffesiynol

Mae pob sgwrs gyda ‘Byw Heb Ofn’ yn gyfrinachol a gallwch gysylltu â’r gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar:

Am ragor o wybodaeth, ewch i LLYW.cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau Cefnogi gweithwyr sydd mewn perygl o gam-drin domestig | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.