
Dathliad blynyddol o Berchnogaeth Gweithwyr (PG) yw Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr, ac mae’n rhoi’r cyfle i filoedd o berchnogion sy’n weithwyr, busnesau PG a chefnogwyr PG ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth ac addysgu am fuddion perchnogaeth gan weithwyr. Bydd yn cael ei gynnal ar 20 Mehefin 2025.
Os ydych chi eisiau gwerthu'ch busnes neu'n bwriadu datblygu eich busnes a gwobrwyo a chadw staff, mae PG yn opsiwn arloesol sydd â buddion masnachol profedig. Trwy drosglwyddo perchnogaeth i'ch gweithwyr, gallwch sicrhau’r gwerth mwyaf posibl ar gyfer eich busnes a gwella perfformiad y busnes, gan sicrhau ar yr un pryd bod eich gwaddol yn parhau am amser maith i'r dyfodol.
Gydag ymchwil yn dangos bod busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn perfformio'n well a chanddynt weithwyr sy’n ymgysylltu’n well ac yn fwy ymroddgar, mae PG hefyd yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg entrepreneuriaid sy'n sefydlu busnesau newydd, er mwyn helpu i ddenu a gwobrwyo gweithwyr dawnus a sbarduno twf busnes.
Cliciwch ar y ddoleni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: