Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref bob blwyddyn.
Prif nod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yw codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ledled y byd ac ysgogi ymdrechion i gefnogi iechyd meddwl.
Mae’r Diwrnod yn rhoi cyfle i’r holl randdeiliaid sy’n gweithio ar faterion iechyd meddwl drafod eu gwaith, a’r hyn sydd angen ei wneud ymhellach i sicrhau bod gofal iechyd meddwl yn realiti i bobl ledled y byd.
Y thema ar gyfer 2026 yw ‘Clywed profiadau byw: lleisiau go iawn, newid go iawn’. Mae profiad byw yn cyfeirio at yr hyn y mae rhywun wedi’i brofi ei hun, yn enwedig pan fo hynny’n rhoi gwybodaeth neu ddealltwriaeth i’r unigolyn nad oes gan bobl sydd ond wedi clywed neu ddysgu am brofiadau o’r fath.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2026.
Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd hefyd yn gyfle i siarad am iechyd meddwl yn gyffredinol, sut mae angen i ni ofalu amdano, a pha mor bwysig yw siarad am bethau a chael help os ydych chi'n cael trafferth.
P'un ai ydych eisiau roi hwb i'ch lles eich hun neu eisiau cyngor i gefnogi eich staff, mae gan Mind Cymru wybodaeth ac adnoddau i'ch helpu gan gynnwys:
Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau a gall gael effaith ar ein hiechyd a’n lles meddyliol. P'un ai eich bod yn hunangyflogedig neu'n berchennog busnes, dylem gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ac am iechyd ein gweithwyr. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (llyw.cymru).