Newyddion

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2025

people talking at a support group

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref bob blwyddyn.

Y thema ar gyfer 2025 yw 'Mynediad at wasanaethau - iechyd meddwl mewn trychinebau ac argyfyngau'. Mae'r thema’n tynnu sylw at bwysigrwydd pobl yn gallu gwarchod eu hiechyd meddwl beth bynnag yw eu sefyllfa, gan fod pawb yn haeddu iechyd meddwl da.

Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol:

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd hefyd yn gyfle i siarad am iechyd meddwl yn gyffredinol, sut mae angen i ni ofalu amdano, a pha mor bwysig yw siarad am bethau a chael help os ydych chi'n cael trafferth.

P'un ai ydych eisiau roi hwb i'ch lles eich hun neu eisiau cyngor i gefnogi eich staff, mae gan Mind Cymru wybodaeth ac adnoddau i'ch helpu gan gynnwys:

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau a gall gael effaith ar ein hiechyd a’n lles meddyliol. P'un ai eich bod yn hunangyflogedig neu'n berchennog busnes, dylem gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ac am iechyd ein gweithwyr. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.