Cyhoeddwyd y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (UDHR) gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym Mharis ar 10 Rhagfyr 1948 ac mae'n nodi, am y tro cyntaf, hawliau dynol sylfaenol sydd i'w gwarchod yn gyffredinol.
Mae'r ddogfen nodedig hon yn ymgorffori'r hawliau diymwad y mae gan bawb hawl iddynt fel bod dynol - waeth beth fo'u hil, lliw, crefydd, rhywedd, iaith, barn wleidyddol neu arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall.
Gall hawliau dynol rymuso unigolion a chymunedau er mwyn creu yfory gwell.
Thema eleni yw ‘Hawliau Dynol, Hanfodion Bob Dydd’ i ailgadarnhau gwerthoedd hawliau dynol ac i ddangos eu bod yn parhau i fod yn gynnig buddiol i ddynoliaeth.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Diwrnod Hawliau Dynol | Y Cenhedloedd Unedig.
Dysgwch am waith Llywodraeth Cymru i gefnogi a gwella hawliau dynol:
Busnes Cymru: Hyrwyddwch waith teg drwy gydraddoldeb, hawliau ac amodau gwaith da. Mae ein Canllaw i Waith Teg yn rhoi enghreifftiau defnyddiol i'ch helpu i ddeall sut i roi Gwaith Teg ar waith yn eich busnes.