Newyddion

Diwrnod Gwisgo Coch 2022

Cynhelir Diwrnod Gwisgo Coch blynyddol Show Racism the Red Card ar 21 Hydref 2022.

Mae’r Diwrnod Gwisgo Coch yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu sy'n annog ysgolion, busnesau ac unigolion i wisgo coch a rhoi arian i helpu hwyluso cyflwyno addysg gwrth-hiliaeth i bobl ifanc ac oedolion.

Mae pob ceiniog sy'n cael ei chodi yn ystod y Diwrnod Gwisgo Coch yn galluogi'r ymgyrch i weithio gyda mwy o bobl ifanc ac oedolion ledled y DU i herio hiliaeth mewn cymdeithas.
I gofrestru a derbyn pecyn codi arian, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cofrestru – Diwrnod Gwisgo Coch (office.com)

Dangoswch eich cefnogaeth I'r Diwrnod Gwisgo Coch trwy lawrlwytho graffeg WRD22. Mae cardiau cefnogwyr WRD22 ynghyd â delweddau a phapurau wal bwrdd gwaith/ffôn ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ar gael.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.theredcard.org/wear-red-day 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.