Newyddion

Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd 2025

person wearing a yellow sweater, listening to music through headphones

Ar 26 Ebrill 2025 bydd hi’n Ddiwrnod Eiddo Deallusol y Byd. Dyma gyfle unigryw i chi ymuno ag eraill ledled y byd i ystyried sut mae eiddo deallusol (IP) yn helpu'r byd celfyddydol i ffynnu ar lefel fyd-eang ac yn galluogi’r datblygiadau technolegol sy'n sbarduno cynnydd dynol.

Mae'r ymgyrch hefyd yn gyfle i dynnu sylw at sut mae hawliau eiddo deallusol, fel patentaunodau masnachdyluniadau diwydiannol, a hawlfreintiau, yn annog arloesedd a chreadigrwydd, a'r thema eleni yw ‘IP and Music: Feel the beat of IP’.

Mae hawliau eiddo deallusol yn galluogi ymchwilwyr, dyfeiswyr, busnesau, dylunwyr, artistiaid, ac eraill i ddiogelu eu hallbwn arloesol a chreadigol yn gyfreithiol, ac i sicrhau y gallant elwa ohonynt yn economaidd.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: World Intellectual Property Day - April 26, 2025 a Eiddo deallusol a’ch gwaith: Beth yw eiddo deallusol - GOV.UK

Gall arloesi helpu'ch sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, i gynyddu gwerthiant, ac i fanteisio ar farchnadoedd newydd. Yma, gallwch weld pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu chi i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.