Mae Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd yn cael ei gynnal ar 7 Mehefin.
Y thema eleni yw 'O'r baich i atebion – bwyd diogel ym mhobman', sy'n tynnu sylw at sut y gall data ar salwch, ei faich a bywydau a gollwyd lywio gweithredu tuag at atebion â ffocws a chosteffeithiol.
Gall busnesau bwyd:
- Gryfhau hyfforddiant ac addysg gweithwyr ar yr arferion diogelwch bwyd diweddaraf a risgiau sy'n dod i'r amlwg, a sicrhau defnydd trylwyr o raglenni diogelwch bwyd.
- Nodi a rheoli peryglon a rheoli risgiau diogelwch bwyd o gynhyrchu i fwyta.
- Gweithredu rhaglenni diogelwch bwyd sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan ddefnyddio data o fewn y busnes i fonitro risgiau diogelwch bwyd ac olrhain gwelliannau.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: World Food Safety Day 2026.
Dysgwch am reoli diogelwch bwyd ar gyfer eich busnes: Rheoli diogelwch bwyd | Asiantaeth Safonau Bwyd.