
Mae Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd yn cael ei gynnal yn flynyddol ar 7 Mehefin.
Mae diogelwch bwyd yn gyfrifoldeb a rennir rhwng llywodraethau, cynhyrchwyr a defnyddwyr. Mae gan bawb rôl i'w chwarae o'r fferm i'r bwrdd i sicrhau bod y bwyd rydyn ni'n ei fwyta yn ddiogel ac na fydd yn achosi niwed i'n hiechyd.
Mae gwyddoniaeth wrth wraidd diogelwch bwyd. Mae'n ein helpu i ddeall beth sy'n gwneud bwyd yn anniogel ac yn ein harwain ar sut i atal clefydau a gludir gan fwyd. Y thema ar gyfer 2025 yw 'Diogelwch bwyd: gwyddoniaeth ar waith' ac mae'n tynnu sylw at y ffaith bod defnyddio gwybodaeth wyddonol yn allweddol i leihau salwch, torri costau ac achub bywydau.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ddarganfod sut y gall eich busnes gymryd rhan, dewiswch y ddolen ganlynol: World Food Safety Day 2025
Mae Is-adran Bwyd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo Bwyd a Diod o Gymru yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol: Bwyd a Diod Cymru - Tyfu gyda'n gilydd | Busnes Cymru - Bwyd a diod (llyw.cymru)