
Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, 11 Chwefror 2025, yn gyfle gwych i blant a phobl ifanc, staff ysgolion, rhieni a gofalwyr a busnesau yng Nghymru fod yn rhan o ymgyrch wirioneddol fyd-eang.
Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn, i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc ac i ysbrydoli trafodaeth yn genedlaethol.
Yn y Deyrnas Unedig, caiff y diwrnod ei gydlynu gan UK Safer Internet Centre ac yn ystod y dathliad mae cannoedd o sefydliadau yn uno i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r diwrnod yn rhoi’r cyfle i ni edrych ar y rôl sydd gan bob un ohonom i ddod at ein gilydd i greu rhyngrwyd gwell.
Thema'r DU eleni yw 'Rhy dda i fod yn wir? Diogelu eich hun ac eraill rhag sgamiau ar-lein'. Mae hyn yn cynnig cyfle gwych i ganolbwyntio ar sgamiau ar-lein ac, i bobl ifanc, sut i ddiogelu eu hunain ac eraill, yn ogystal â pha gymorth sydd ar gael iddynt.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol: