Newyddion

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024

photo of Woman and Boy Smiling While Watching Through Imac

Cynhelir Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024 ar 6 Chwefror 2024, gyda dathliadau a dysgu sy’n seiliedig ar y thema ‘Ysbrydoli newid? Gwneud gwahaniaeth, rheoli dylanwad a llywio newid ar-lein’.

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yw’r dathliad mwyaf yn y Deyrnas Unedig (DU) sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch ar-lein. Mae wedi’i greu mewn ymgynghoriad â phobl ifanc ledled y DU, a ffocws Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel eleni yw newid ar-lein, gan gynnwys:

  • safbwyntiau pobl ifanc ar dechnoleg newydd a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg
  • defnyddio’r rhyngrwyd i wneud newidiadau er gwell
  • y newidiadau y mae pobl ifanc eisiau eu gweld ar-lein
  • y pethau sy’n gallu dylanwadu a newid y ffordd y mae pobl ifanc yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu ar-lein ac all-lein.

Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU sy’n cydgysylltu’r dathliad yn y DU, ac mae miloedd o sefydliadau’n cymryd rhan er mwyn hyrwyddo defnyddio technoleg ddigidol yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn gadarnhaol ymhlith plant a phobl ifanc.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol:

I gael y newyddion diweddaraf, canllawiau, adnoddau a hyfforddiant i’ch helpu chi, eich ysgol a’ch teulu i gadw’n ddiogel ac yn wybodus ar-lein, dewiswch y ddolen ganlynol: Cadw’n ddiogel ar-lein - Hwb (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.