Cynhelir Diwrnod Bwyd y Byd yn flynyddol ar 16 Hydref, a’r thema eleni yw ‘Arloesi heddiw. Rhoi maeth yfory’.
Mae datblygiadau arloesol yn trawsnewid sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ei storio, ei gludo a'i farchnata. Mae'n cyfuno darganfyddiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg â gwybodaeth, profiad a dyfeisgarwch ffermwyr, pysgotwyr, bugeiliaid a choedwigwyr – gan gynnwys menywod, pobl ifanc a phobl frodorol – yn ogystal â buddsoddwyr, llunwyr polisi ac entrepreneuriaid, oherwydd mae trawsnewid systemau bwyd-amaeth yn gofyn am weithredu ar y cyd.
Mae'r sector preifat yn chwarae rhan hanfodol wrth ysgogi buddsoddiad, cryfhau cadwyni cyflenwi, creu swyddi, ac adeiladu modelau busnes cynhwysol. P'un ai ydych chi'n wneuthurwr bwyd, yn fanwerthwr bwyd, sefydliad ariannol, cwmni cyfryngau, yn fusnes bach neu ganolig (BBaChau), gallwch wneud gwahaniaeth.
Am fwy o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol:
- About | World Food Day| Food and Agriculture Organization of the United Nations
- What can private sector do | World Food Day | Food and Agriculture Organization of the United Nations
Gall arloesedd helpu'ch sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, i gynyddu gwerthiant, ac i fanteisio ar farchnadoedd newydd. Yma, gallwch weld pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu chi i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.