Newyddion

Diwrnod Atal Gwastraff Bwyd 2026

Frozen food - freezer

Diwrnod Atal Gwastraff Bwyd yw’r diwrnod gweithredu mwyaf yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd ledled y byd, ac fe’i cynhelir ddydd Mercher 29 Ebrill 2026.

Mae gwastraff bwyd yn broblem fyd-eang, ac yn ei sgil daw amrywiaeth eang o effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Y nodau yw:

  • Atal gwastraff bwyd byd-eang yn y man cychwyn, trwy storio bwyd yn y ffordd orau bosibl, gwneud defnydd o bob rhan fwytadwy o’r cynhwysyn, a chynllunio prydau bwyd ymlaen llaw.
  • Ysbrydoli pawb – ffrindiau, cydweithwyr, cymunedau lleol, i leihau gwastraff bwyd ac ailddefnyddio mwy.
  • Addasu bwyd at ddibenion eraill arall wrth roi ail fywyd i gynhwysion sy’n cael eu gwastraffu gan amlaf, neu wrth ailddosbarthu bwyd dros ben i’ch cymuned leol.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: About (stopfoodwasteday.com)

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am atal gwastraff bwyd yn y man cychwyn, ewch i Wrap Surplus food redistribution | WRAP.

Gallwch gofrestru ar gyfer ‘Yr Addewid Twf Gwyrdd’ a helpu eich busnes i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eich cynaliadwyedd. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.