Newyddion

Diwrnod Amser i Siarad 2026

friends in a cafe

Time to Talk Day is on 5 February 2026. 

Mae’n Ddiwrnod Amser i Siarad ar 5 Chwefror 2026. 

Diwrnod Amser i Siarad yw sgwrs fwyaf y genedl am iechyd meddwl. Gall pob un ohonom ddod at ein gilydd ar y diwrnod hwn i siarad, i wrando ac i newid bywydau. 

Gall siarad yn agored ac yn onest fod yn gam cyntaf tuag at iechyd meddwl gwell i bawb. Gall leihau stigma a helpu pobl i deimlo'n ddigon cyfforddus i ofyn am help pan fydd ei angen arnynt.

Beth am rannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #TimeToTalk #AmserISiarad, trefnu gweithgaredd yn eich gweithle, neu gael sgwrs gyda ffrind neu aelod o'r teulu i holi amdanynt. Mae sawl ffordd o gymryd rhan ar Ddiwrnod Amser i Siarad.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Diwrnod Amser i Siarad 2026.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.