Cynhelir y Diwrnod Ailgylchu Byd-eang ar 18 Mawrth 2026.
Mae'n cydnabod y bobl, y lleoedd a'r gweithgareddau sy'n dangos sut mae'r Seithfed Adnodd ac ailgylchu yn cyfrannu at blaned amgylcheddol sefydlog a dyfodol gwyrddach i bawb.
Gallwch gymryd rhan yn y diwrnod arbennig hwn trwy drefnu'ch digwyddiadau eich hun, gan helpu i hyrwyddo’r Diwrnod Ailgylchu Byd-eang trwy rannu gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Global Recycling Day.
Mae ailgylchu yn y gweithle wedi newid, mae'n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.
Mae hefyd yn gymwys i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunydd ailgylchu sy'n rheoli gwastraff gweithleoedd sy'n debyg i wastraff cartrefi: Ailgylchu yn y gweithle | LLYW.CYMRU.
Bydd hefyd angen i weithleoedd wahanu eu cyfarpar trydanol gwastraff bach i'w hailgylchu o 6 Ebrill 2026.
Fe welwch ganllaw i'r newidiadau ar wefan Ailgylchu Busnes Cymru WRAP.