Newyddion

Diweddariadau gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - Mawrth 2026

Person injured at work

Darllenwch y diweddariadau gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Diogelwch cerbydau a thrafnidiaeth yn y gwaith: Mae cael eich taro gan gerbyd yn dal i fod yn un o brif achosion anafiadau angheuol a difrifol yn y gweithle. Mae gan adran trafnidiaeth yn y gweithle gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch amrywiaeth o ganllawiau, cyngor ac adnoddau eraill i helpu i leihau’r risgiau a chadw gweithwyr yn ddiogel.

Cyfarpar sgrin arddangos (DSE): profion llygaid a golwg: Mae gwaith DSE yn weledol heriol ac mae gan gyflogwyr rai cyfrifoldebau cyfreithiol.Mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid i gyflogwyr drefnu prawf llygaid ar gyfer defnyddwyr DSE os ydyn nhw'n gofyn am un, a darparu sbectol os oes eu hangen ar weithiwr ar gyfer defnydd DSE yn unig. Dysgwch fwy am brofion llygaid a golwg.

Gweithio'n ddiogel gyda sylweddau peryglus: Mae amrywiaeth o sylweddau niweidiol i'w cael yn ein hamgylcheddau gwaith, gall gwybod sut i reoli'r rhain yn ddiogel helpu i’ch amddiffyn chi, a phobl eraill, rhag niwed. Gall gwefan Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd eich helpu i ddeall y camau y dylech eu cymryd i ddiogelu eich iechyd ac iechyd pobl eraill y gallai gael eu heffeithio.

Cymorth cyntaf yn y gwaith: Rhaid i gyflogwyr sicrhau bod gweithwyr yn cael cymorth ar unwaith os ydynt yn mynd yn sâl neu wedi'u hanafu yn y gwaith. Mae'r canllaw cam wrth gam ar gymorth cyntaf yn y gwaith yn esbonio sut mae'n rhaid i chi gael y trefniadau cywir ar waith.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.