Newyddion

Diweddariadau gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

self employed worker

Darllenwch y diweddariadau gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Codi a chario yn y gweithle: cyngor ar y gyfraith: Fel cyflogwr, rhaid i chi ddiogelu eich gweithwyr rhag anafiadau codi a chario yn y gweithle. Mae cyngor ar sut i atal y mathau hyn o risgiau yn eich gweithle i’w gael ar dudalennau codi a chario yn y gweithle ar wefan yr HSE.

Canllawiau hawdd eu deall i gefnogi gweithwyr anabl: Mae Hawdd ei Ddeall yn ffordd o wneud gwybodaeth ysgrifenedig yn haws i'w deall. Mae'n golygu defnyddio iaith syml, brawddegau byr a delweddau clir i helpu i egluro cynnwys. Gallwch ddod o hyd i'r casgliad cyflawn ar wefan yr HSE: Support disabled workers and workers with long-term health conditions in work.

Canllawiau i weithwyr hunangyflogedig: Bydd tudalennau ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig ar wefan yr HSE yn eu helpu i ddeall pryd mae cyfraith iechyd a diogelwch yn berthnasol iddynt ac i ddod o hyd i'r canllawiau y maen nhw eu hangen. Dysgwch fwy trwy ddarllen eu canllawiau ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.