Newyddion

Diweddariadau Cymru Iach Ar Waith Mawrth 2026

Warehouse worker wearing a red jumper and yellow vest

Mae Cymru Iach Ar Waith yn rhaglen genedlaethol rad ac am ddim sy'n ceisio gwella iechyd ac atal iechyd gwael yn y gwaith drwy gefnogi cyflogwyr yng Nghymru.

Cymerwch olwg ar ddiweddariadau diweddaraf Cymru Iach Ar Waith!

Mae tudalen pwnc ADHD yn y gweithle newydd. Ewch i'r dudalen i archwilio canllawiau ymarferol ar gefnogi gweithwyr ag ADHD ac adeiladu gweithle mwy cynhwysol.

Mae Cymru Iach ar Waith wedi datblygu tudalen pwnc Cefnogi gweithwyr sydd wedi colli eu golwg neu rywfaint o’u golwg i helpu gweithwyr sydd wedi colli eu golwg neu rywfaint o’u golwg i deimlo'n hyderus, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu ffynnu yn y gwaith. Darllenwch eu stori lwyddiant â Sight Cymru a darganfyddwch sut mae cyflogwyr yn codi ymwybyddiaeth ac yn creu gweithleoedd cynhwysol.

Gweminarau am ddim - Cofrestrwch ar gyfer gweminarau sydd ar ddod:

Gweminarau Llywodraeth Cymru: Addasiadau ar gyfer pobl niwrowahanol – Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol ar gefnogi unigolion niwrowahanol yn effeithiol yn eich sefydliad:

Darganfyddwch fanteision cefnogi iechyd a llesiant yn y gweithle i’ch gweithlu, eich gweithle a'ch busnes. Gweithredu ar iechyd a llesiant yn y gweithle - Cymru Iach ar Waith.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.