Newyddion

Diweddariadau Cymru Iach Ar Waith Awst 2026

factory worker - trainee

Mae Cymru Iach Ar Waith yn rhaglen genedlaethol rad ac am ddim sy'n ceisio gwella iechyd ac atal iechyd gwael yn y gwaith drwy gefnogi cyflogwyr yng Nghymru.

Cymerwch olwg ar ddiweddariadau diweddaraf Cymru Iach Ar Waith!

Adnoddau newydd i gefnogi gweithwyr ifanc

Ydychchi’n cyflogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, neu’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n paratoi ar gyfer y byd cyflogaeth? Mae Cymru Iach Ar Waith wedi lansio ystod o adnoddau newydd a gynlluniwyd i gynorthwyo gweithwyr ifanc wrth iddynt ddechrau yn y byd gwaith, ac ymdopi â’r byd hwnnw, gan gynnwys:

Pecyn Cymorth Newydd ar gyfer Bwydo ar y Fron yn y Gweithle

Mae Cymru Iach Ar Waith wedi lansio pecyn cymorth newydd ar gyfer Bwydo ar y Fron yn y Gweithle i helpu cyflogwyr i greu amgylcheddau gweithle sy’n cefnogi mamau i barhau i fwydo ar y fron pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth.

Gweminar Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Ymunwch â’r gweminar, ar 7 Hydref 2026, rhad ac am ddim hwn a dysgwch yma Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith.

Gweithdai Camau Cyntaf Cymru Iach Ar Waith 

Ydych chi’n newydd i iechyd a llesiant yn y gweithle, neu’n ansicr ble i ddechrau? Mae gweithdai ymarferol, rhad ac am ddim, ‘Camau Cyntaf’, wedi’u cynllunio i helpu sefydliadau ledled Cymru i fwrw ati gyda hyder.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Awst 2026 - Cymru Iach ar Waith.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.