
Mae’r ffenestri diweddaraf i gofrestru ar gyferRhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith (RPD)achyflwyno gwybodaeth iddo wedi agor.
I helpu’r cynhyrchwyr sydd o dan rwymedigaeth i gyflwyno data a chydymffurfio â’r gofynion, mae nifer o ddiweddariadau arwyddocaol a swyddogaethau newydd yng ngwasanaeth digidol yr EPR dros becynwaith yn fyw erbyn hyn ac ar gael i’w defnyddio trwy’r porth RPD.
Mae’r diweddariadau hyn yn darparu offer gwell i’r cynhyrchwyr i fodloni gofynion rheoleiddio, paratoi ar gyfer y cyflwyniadau data sydd i ddod, a sicrhau dealltwriaeth a goruchwyliaeth gliriach ar eu rhwymedigaethau o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.
Mae porth digidol gwell yr RDP yn cynnig llwyfan canolog a symlach i’r cynhyrchwyr i reoli pob agwedd ar eu cydymffurfiaeth â gofynion pEPR.
Mae’n ofynnol i bob cynhyrchydd sydd o dan rwymedigaeth (gan gynnwys marchnadoedd ar-lein a chynlluniau cydymffurfio sy’n gweithredu ar eu rhan) greu cyfrif ar RPD, cofrestru eu sefydliad a chyflwyno data pecynwaith gan ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau a ddiffinnir fel bach a mawr o dan reoliadau pEPR. Mae canllawiau ar ddosbarthu sefydliadau bach a mawr ar gael ar GOV.UK.
Mae’r amserlenni ar gyfer rhoi gwybod am ddata i gynhyrchwyr bach a mawr yn amrywio. Rhaid i gynhyrchwyr mawr gyflwyno’u data pecynwaith nhw ar gyfer hanner cyntaf 2025 (1 Ionawr i 30 Mehefin) erbyn 1 Hydref 2025. Does dim gofyn i gynhyrchwyr bach gofrestru a chyflwyno data erbyn 1 Hydref, ond mae’n rhaid iddyn nhw gyflwyno’u data pecynwaith ar gyfer blwyddyn lawn 2025 (1 Ionawr i 31 Rhagfyr) erbyn 1 Ebrill 2026.