Newyddion

Diweddariad HSE yr Hydref

Health and Safety

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yw corff rheoleiddio cenedlaethol Prydain ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle; cymerwch olwg ar yr wybodaeth ddiweddaraf.

Rheoli iechyd a diogelwch a rheoli risg ar gyfer busnesau

Mae gan HSE ganllawiau ar reoli iechyd a diogelwch a rheoli risgiau ar gyfer busnesau. Bydd y tudalennau gwe am reoli iechyd a diogelwch yn eich helpu i ddod o hyd i'r lefel gywir o ganllawiau ar gyfer eich busnes.

Gweithio ar eich pen eich hun: amddiffyn pobl sy'n gweithio ar eu pen eu hunain

Gall rhywun sy'n gweithio ar ei ben ei hun fod mewn mwy o berygl o ddioddef niwed gan efallai na fydd neb ar gael i'w helpu neu eu cefnogi os aiff pethau o'i le. Fel cyflogwr, mae'n rhaid i chi reoli unrhyw risgiau iechyd a diogelwch cyn y gall pobl weithio ar eu pen eu hunain. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw un sydd â chontract i weithio i chi, gan gynnwys pobl hunangyflogedig. Darllenwch y canllawiau: Lone working: Protect those working alone - HSE.

Diogelwch trydanol yn y gwaith

Gall trydan ladd neu anafu pobl yn ddifrifol ac achosi difrod i eiddo, ond gall rhagofalon syml helpu i'ch amddiffyn chi, eich gweithwyr ac eraill o'ch cwmpas. Mae gan dudalennau gwe diogelwch trydanol yn y gwaith yr HSE ganllawiau ac adnoddau ar sut i helpu i leihau'r risg o anaf trydanol.

Cyfarpar sgrin arddangos (DSE): profion llygaid a golwg

Mae gwaith DSE yn weledol heriol ac mae gan gyflogwyr rai cyfrifoldebau cyfreithiol. Mae gan y tudalennau gwe gweithio'n ddiogel gyda chyfarpar sgrin arddangos wybodaeth a chanllawiau ar sut i ddiogelu iechyd gweithwyr.

Working Minds – Atal straen a chefnogi iechyd meddwl yn y gwaith

Dysgu ymarferol, rhyngweithiol i'ch helpu i adnabod ac atal straen sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae'r adnodd dysgu rhyngweithiol Working Minds rhad ac am ddim yn rhoi lle syml, ymarferol i reolwyr a pherchnogion busnes ddechrau: Working Minds - Work Right.

Ymchwilio i ddamweiniau a digwyddiadau

Mae gan HSE lyfr gwaith rhad ac am ddim i gyflogwyr, undebau, cynrychiolwyr diogelwch a gweithwyr diogelwch proffesiynol i ddarganfod beth aeth o'i le ar ôl damwain neu ddigwyddiad a nodi risgiau y gallant eu hosgoi'n hawdd: Investigating accidents and incidents - HSE.

Atal llithro a baglu

Mae llithro a baglu yn un o brif achosion damweiniau yn y gweithle, a gellir eu hatal drwy gamau syml a rhad. Mae'r tudalennau gwe am lithro a baglu yn rhoi gwybodaeth ac adnoddau, gan gynnwys cyngor ar beth i'w wneud nesaf os bu damwain llithro neu faglu yn y gwaith.

Cyfrifoldebau iechyd a diogelwch ar gyfer cyfleusterau ynni ymasiad (fusion)

Mae HSE wedi creu tudalen gwe newydd ar gyfer y rhai sydd â chyfrifoldebau yn ystod cylch bywyd cyfleusterau ynni ymasiad gan gynnwys dylunwyr, gosodwyr a gweithredwyr. Ewch i'r dudalen gwe am ragor o wybodaeth: Fusion energy facilities.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.