Newyddion

Diweddariad ar weithredu Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 - Gwaharddiadau Cam 2

person carrying shopping in a plastic bag

Mae Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi diweddariad i'r amserlen weithredu arfaethedig ar gyfer y gwaharddiadau 'Cam 2' sy'n weddill o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023.

Mae hyn ar gyfer y cynnyrch canlynol:

  • Bagiau plastig untro
  • Caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê
  • Cynhyrchion plastig ocso-ddiraddadwy.


Mae'r cyhoeddiad yn golygu na fyddwn bellach yn gosod rheoliadau i gyflwyno'r gwaharddiadau sy'n weddill yn y Ddeddf Plastig Untro erbyn gwanwyn 2026.

I ddarllen y datganiad yn llawn dewisiwch y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar weithredu Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 – Gwaharddiadau Cam 2 (11 Chwefror 2026) | LLYW.CYMRU

Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach i amserlenni yn cael eu cyhoeddi ar y wefan Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 | LLYW.CYMRU pan fydd y rhain ar gael. 

Os hoffech drafod y mater hwn ymhellach, cysylltwch â plastiguntro@llyw.cymru


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.