Newyddion

Diweddariad ar Bont Menai 9 Hydref 2025

Menai Bridge

Bydd Pont Grog Menai yn ailagor yn rhannol i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr, yn unig, am 07:00 o'r gloch ddydd Gwener 10 Hydref, ar ôl iddi gael ei chau dros dro y penwythnos diwethaf ar gyngor diogelwch gan beirianwyr.

Bydd y cynllun gorfodi traffig ar gyfer ailagor yn rhannol, a ddatblygwyd gan UK Highways A55 DBFO Ltd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd, yn gweithredu rhwng 07:00 a 19:00 o'r gloch. Bydd y bont ar gau yn llwyr dros nos, rhwng 19:00 o'r gloch a 07:00 o'r gloch, a hynny 7 diwrnod yr wythnos. Bydd gwaith ac arolygiadau pellach yn digwydd tra bo’r bont ar gau.

Tra bo'r bont ar agor, dim ond cerbydau hyd at derfyn pwysau o 3 tunnell fydd yn gallu ei defnyddio, a bydd mesurau rheoli traffig ac un llif o draffig oddi ar yr ynys yn y bore (07:00 o'r gloch - 13:00 o'r gloch - Ynys Môn i Fangor) ac i'r ynys yn y prynhawn (13:00 o'r gloch - 19:00 o'r gloch - Bangor i Ynys Môn).

Wrth gyrraedd y bont, bydd disgwyl i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r droedffordd bwrpasol. Bydd cerddwyr yn defnyddio troedffordd ar wahân. Bydd cerddwyr a beicwyr yn gallu defnyddio'r bont dros nos. Bydd trefniadau mynediad brys ar waith ar gyfer ambiwlansys nad ydynt yn gallu croesi Pont Britannia.

Tra bo'r bont ar agor, bydd camau gorfodi ar waith i sicrhau bod defnyddwyr yn cadw at y terfyn pwysau 3 thunnell. Bydd peidio â chydymffurfio yn arwain at gamau erlyn gan yr heddlu a bydd yn arwain at gyfnodau eraill o gau'r bont er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy'n croesi.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Diweddariad ar Bont Menai | LLYW.CYMRU ac A5 Pont Menai: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.