Mae ail gam y gwaith ar Bont Menai yn mynd rhagddo ar ôl gosod y sgaffaldiau o dan y bont a elwir yn Aerotruss.
Er mwyn ymgymryd â gwaith i fynd i'r afael â risg diogelwch uniongyrchol sy'n gysylltiedig â cheblau cyfathrebu heb eu diogelu o dan y bont, ac i roi mesurau i sicrhau diogelwch y gweithlu ar y bont, byddwn yn cau'r bont yn llawn am gyfnod byr yr wythnos nesaf gan gau lôn cyn ac ar ôl hynny.
Rhaid diogelu'r ceblau, sy'n darparu cysylltiadau cyfathrebu ag Ynys Môn ac Iwerddon, cyn y gall gwaith pellach barhau.
Bydd un lôn ar gau rhwng 13 Mai 2026 a 22 Mai 2026 rhwng 10am a 6pm bob dydd. Bydd goleuadau traffig yn eu lle i reoli traffig yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y Bont ar gau yn llawn o 2pm ddydd Gwener 15 Mai tan 6pm ddydd Sadwrn 16 Mai.
Bydd cerddwyr a beicwyr oddi ar eu beiciau yn gallu croesi'r bont yn ystod y cau. Bydd dargyfeirio yn ystod y cau dros Bont Britannia.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Diweddariad ar Bont Menai | LLYW.CYMRU.