Newyddion

Diweddariad ar Bont Menai

Menai Bridge

Rydym yn cydweithio gyda UK Highways A55 DBFO Ltd i ailagor yn rhannol Bont Menai i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr yn y dyddiau nesaf.

Disgwylir i'r ailagor rhannol hwn weithredu rhwng 07:00-19:00 o'r gloch a bydd y bont ar gau yn llwyr dros nos. Yn ystod yr oriau gweithredu, dim ond cerbydau hyd at 3 thunnell fydd yn gallu croesi, a bydd mesurau rheoli traffig ac un llif traffig oddi ar yr ynys ar waith yn y bore ac i mewn i’r ynys ar waith yn y prynhawn.

Bydd disgwyl i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau wrth groesi'r bont a defnyddio'r droedffordd i gerddwyr.

Bydd trefniadau mynediad brys ar gyfer ambiwlansys nad ydynt yn gallu croesi Pont Britannia ar waith.

Mae trafodaethau'n parhau gyda UK Highways A55 DBFO Ltd a Heddlu Gogledd Cymru a bydd yr union amserlenni a'r camau gorfodi yn cael eu cadarnhau cyn gynted ag y cytunir ar gynllun yn llawn. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Diweddariad ar Bont Menai | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.