Blogiau

Diogelwch eich hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu yn y dyfodol: beth mae angen i fusnesau sy’n tyfu ei wybod nawr

Colleagues discussing at a table

Gan Matthew Jones, Partner Aur ar y Rhaglen Cyflymu Twf

Os yw eich busnes yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu, gall credydau treth ar gyfer Ymchwil a Datblygu ddarparu rhyddhad ariannol sylweddol. Ond mae gofyniad cymharol newydd yn annilysu hawliadau cyn iddyn nhw ddechrau ac mae’n hawdd ei golli os nad ydych chi’n gwybod bod angen i chi chwilio amdano.

Beth mae'r rheol hysbysu blaenorol yn ei olygu yn ymarferol

Ers mis Ebrill 2023, mae hysbysu blaenorol wedi bod yn orfodol i hawlwyr tro cyntaf, ac i unrhyw gwmni nad yw wedi cyflwyno hawliad Ymchwil a Datblygu dilys yn y tair blynedd cyn y dyddiad cau ar gyfer hysbysu blaenorol. Os cafodd eich hawliad diwethaf ei wneud o fewn y ffenestr tair blynedd honno, mae'n debyg eich bod wedi'ch eithrio. Os na wnaed, neu os nad ydych erioed wedi hawlio o'r blaen, mae'r rheol yn berthnasol i chi.

Mae'r rheol ei hun yn un syml: rhaid i chi hysbysu CThEF o'ch bwriad i hawlio o fewn chwe mis i ddiwedd eich cyfnod cyfrifo. Os yw'r rheol yn berthnasol i chi a'ch bod chi’n colli'r ffenestr honno, mae eich hawliad yn annilys, ni waeth faint o waith Ymchwil a Datblygu cymwys rydych chi wedi'i wneud neu faint rydych chi wedi'i wario.

Cyflwynodd CThEF y rheol yn rhan o'i dull o leihau hawliadau twyllodrus ac o ansawdd isel ac o ymgysylltu â busnesau yn gynharach. Yn ymarferol, mae rhai busnesau wedi colli’r dyddiad cau ar gyfer hysbysu, a’r canlyniad yw nad oedd modd bwrw ymlaen â hawliadau a oedd yn rhai dilys fel arall.

Pam mae busnesau mewn cyfnod o dwf yn fwyaf agored i niwed

Ar ddechrau cyfnod adeiladu busnes, mae sylfaenwyr yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf: datblygu cynhyrchion newydd, datrys problemau technegol a phrofi cysyniadau. Dyna'r union adeg pryd mae gweithgaredd a gwariant Ymchwil a Datblygu cymwys yn tueddu i fod ar ei uchaf, a dyma hefyd y cyfnod pan fydd yr ansicrwydd technegol mwyaf, sef un o’r meini prawf cymhwyso allweddol.

O ganlyniad, gall rhai busnesau gynnal gwaith ymchwil a datblygu cymwys sylweddol cyn dod yn ymwybodol o'r gofyniad ynghylch hysbysu hawliadau. Yn yr achosion hyn, dim ond pan baratoir y cyfrifon neu pan geisir cyngor allanol y gall y gofyniad ddod i’r amlwg, ac erbyn hynny bydd y dyddiad cau ar gyfer hysbysu ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu perthnasol wedi mynd heibio, o bosib. O'r pwynt hwnnw ymlaen, dim ond am Ymchwil a Datblygu cyfredol neu yn y dyfodol y cân nhw hawlio.

Sut mae hyn yn edrych i fusnesau ar hyn o bryd

Rydyn ni’n siarad yn rheolaidd â chwmnïau sy'n ceisio cyngor treth ar Ymchwil a Datblygu, ac yn aml yn canfod bod rhai o'r lefelau uchaf o wariant Ymchwil a Datblygu cymwys yn ymwneud â chyfnodau lle mae'r dyddiad cau ar gyfer hysbysu wedi mynd heibio. Yn dibynnu ar lefel y gwariant cymwys dan sylw, gall hyn gael effaith sylweddol ar werth unrhyw hawliad dilynol.

Camau ymarferol i ddiogelu eich hawliad

Os yw eich busnes chi wrthi'n cynnal gwaith Ymchwil a Datblygu cymwys ar hyn o bryd, neu ar fin dechrau, gweithredwch nawr:

  • Dysgwch a yw hysbysu blaenorol yn berthnasol i'ch cwmni chi ac edrychwch pryd mae eich ffenestr hysbysu yn cau
  • Os yw'n berthnasol, cyflwynwch yr hysbysiad i CThEF o fewn chwe mis i ddiwedd eich cyfnod cyfrifo.
  • Ymgysylltwch ag arbenigwr treth Ymchwil a Datblygu yn gynnar, nid ar ôl i'ch cyfnod datblygu mawr cyntaf ddod i ben
  • Cadwch gofnod clir o'r cychwyn cyntaf o weithgareddau a gwariant cymwys, er mwyn ei gwneud hi’n haws dangos tystiolaeth o’ch hawliad maes o law

Mae ymgysylltu’n gynnar yn rhoi’r cyfle gorau i chi fodloni gofynion CThEF a sicrhau bod eich hawliad mor gadarn â phosibl. Hyd yn oed os nad ydych chi'n bwriadu hawlio ar unwaith, mae'n werth gwirio'ch sefyllfa o ran hysbysu nawr oherwydd gall y ffenestr gau cyn i chi ddechrau paratoi eich hawliad.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.