
Mae cerbydau yn y gwaith yn parhau i fod yn un o brif achosion anafiadau mawr ac angheuol.
Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer 2023 i 2024 yn dangos bod 25 o weithwyr wedi cael eu lladd pan gawsant eu taro gan gerbyd yn symud: Work-related fatal injuries in Great Britain.
Mae gan wefan trafnidiaeth yn y gweithle yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) amrywiaeth o ganllawiau, cyngor ac adnoddau eraill i helpu i leihau’r risgiau a chadw gweithwyr yn ddiogel.
Gallwch hefyd lawrlwytho cyhoeddiadau perthnasol o wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, sy'n cynnwys:
- Workplace transport safety - an employer's guide
- Workplace transport safety - an overview
- Rider-operated lift trucks