
Mae gweithwyr yr un mor debygol o gael damwain yn y 6 mis cyntaf yn y gweithle ag y maent yn ystod gweddill eu bywyd gwaith.
Mae pobl ifanc mewn perygl yn arbennig gan eu bod yn debygol o fod yn newydd i'r gweithle ac yn llai ymwybodol o risgiau.
Pan fyddwch yn cyflogi pobl ifanc o dan 18 oed, mae gennych yr un cyfrifoldebau am eu hiechyd, eu diogelwch a’u lles ag am y gweithwyr eraill. Mae hyn yn berthnasol p'un ai eu bod yn weithiwr, ar brofiad gwaith, neu'n brentis.
Mae gan ganllawiau pobl ifanc yn y gwaith yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gyngor i gyflogwyr ar:
- risgiau i bobl ifanc yn y gwaith
- hyfforddiant a goruchwyliaeth
- profiad gwaith
- prentisiaid
Mae gan yr HSE fwy o ganllawiau ar weithwyr ifanc ar eu gwefan, gan gynnwys cyngor i rieni, gofalwyr, ysgolion, colegau a rhai sy’n trefnu profiad gwaith.