Newyddion

Diogelu eich sefydliad rhag casineb a aflonyddu: canllaw ymarferol

Stressed employee

Cyngor i helpu'ch sefydliad i adnabod y gwahaniaeth rhwng craffu dilys ac aflonyddu, a sut i amddiffyn eich hun lle bo angen.

Mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio fwyfwy i ddychryn neu aflonyddu ar unigolion a sefydliadau sy’n cefnogi cynhwysiant a chydraddoldeb yng Nghymru. 

Gall targedu fod yn drawmatig, tarfu ar waith sefydliadau a rhoi staff a defnyddwyr gwasanaeth mewn perygl. Er nad yw’r rhan fwyaf o fygythiadau yn symud o’r byd ar-lein i’r byd all-lein, gall y niwed fod yn sylweddol o hyd. Er bod yn rhaid cymryd pryderon am aflonyddu o ddifrif, mae’n dal yn hanfodol bod sefydliadau – yn enwedig y rheini sy’n cael arian cyhoeddus – yn agored i graffu a thryloywder priodol er mwyn cynnal ymddiriedaeth ac atebolrwydd. 

Mae canllaw ymarferol Llywodraeth Cymru yn ceisio helpu sefydliadau i nodi’r gwahaniaeth rhwng craffu dilys ac aflonyddu ac ystyried sut y gallant ddiogelu eu hunain lle bo angen.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Diogelu eich sefydliad rhag casineb a aflonyddu: canllaw ymarferol | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.