Blogiau

Diogelu eich llif arian wrth i chi dyfu eich sylfaen cwsmeriaid

Founder smiling looking at camera

Gan Raj Singh, Partner Aur ar y Rhaglen Cyflymu Twf

Wrth i fusnesau sy’n cael cymorth drwy'r Rhaglen Cyflymu Twf barhau i ehangu i farchnadoedd a segmentau cwsmeriaid newydd, mae cynnal rheolaeth llif arian cryf yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer twf cynaliadwy.

Dylai tyfu busnes deimlo fel ennill. Cwsmeriaid newydd, marchnadoedd newydd, refeniw yn codi o fis i fis. Ond mae rhif tawelach ar y fantolen sy'n penderfynu a yw'r twf yn goroesi: yr arian sy’n ddyledus i chi gan gwsmeriaid.

Boed a ydych chi'n gwerthu ar draws y dref neu ar draws cyfandiroedd, mae'r rhifau’n tyfu'n gyflymach na'r busnes. Mae pob cwsmer newydd yn set arall o delerau credyd estynedig ac yn dalwr arall nad yw ei arferion yn hysbys i chi. Ac mae'r risgiau'n tyfu gyda'ch uchelgais. Gall talwr hwyr ddod yn anghyfleustra, yn enwedig dramor mewn system gyfreithiol sy’n ddieithr i chi, mewn arian cyfred nad oeddech chi wedi prisio ar ei gyfer.

Y gwir anghyfforddus yw nad yw'r rhan fwyaf o fusnesau'n methu oherwydd diffyg cwsmeriaid. Maen nhw'n methu oherwydd bod eu harian parod wedi'i ddal yn y taliadau sy’n ddyledus iddyn nhw tra bydd eu biliau nhw eu hunain yn parhau i gyrraedd ar amser.

Felly, sut mae amddiffyniad ymarferol yn edrych wrth i chi dyfu?

Yn gyntaf, ystyriwch gredyd yn benderfyniad, nid cwrteisi. Mae pob cwsmer rydych chi'n estyn telerau ato, yn benthyca gennych chi i bob pwrpas. Penderfynwch yn fwriadol faint rydych chi'n fodlon ei fenthyca i bob un a hynny ar sail eu sefyllfa ariannol, nid dim ond maint eu harcheb. Mae archeb fawr gan dalwr gwan yn rhwymedigaeth mewn gwisg dathliad.

Yn ail, byddwch dewch yn gyfarwydd â’r diriogaeth cyn i chi werthu iddi. Mae ymddygiad talu, gorfodi cyfreithiol a phrosesau ansolfedd yn amrywio'n fawr ac nid yn unig rhwng gwledydd. Mae gan wahanol ddiwydiannau a mathau o gwsmeriaid ddiwylliannau talu gwahanol iawn. Gall teler 30 diwrnod sy'n gweithio gyda chwsmer masnach lleol fod yn argraff ffug gyda chorfforaeth fawr ac yn argraff ffug eto gyda phrynwr tramor. Mae deall y prynwr rydych chi'n llofnodi gydag e, yn caniatáu ichi brisio am y risg, cymryd blaendal neu ddefnyddio offeryn fel llythyr credyd, yn hytrach na darganfod hynny 120 diwrnod yn ddiweddarach.

Yn drydydd, cadwch lygad ar yr arwyddion cynnar. Yn anaml y bydd dyledwyr yn mynd o fod yn dalwyr perffaith i rai nad ydyn nhw’n talu dros nos. Mae ymatebion arafach, anfonebau sy’n destun anghydfod sy’n ymddangos am y tro cyntaf, taliadau rhannol a cheisiadau i newid manylion banc yn wybodaeth werthfawr. Mae proses uwchgyfeirio strwythuredig a gychwynnir cyn gynted ag y bydd anfoneb yn hwyr yn costio llawer llai na chymryd camau cyfreithiol chwe mis yn rhy hwyr

Yn bedwerydd, cadwch eich tŷ eich hun mewn trefn. Anfonebwch yn gywir ac ar unwaith oherwydd bod anfoneb sy'n destun anghydfod yn anfoneb heb ei thalu. Gwnewch daliadau'n hawdd. A neilltuwch berchnogaeth glir dros daliadau sy’n ddyledus i chi yn fewnol fel bod mynd ar ôl cyfrifon hwyr yn waith i rywun bob wythnos, nid yn ymarfer tân bob chwarter.

Yn olaf, cofiwch pryd i alw ar gymorth arbenigol. Mae timau mewnol yn rhagorol am gasgliadau arferol. Ond mae angen gwahanol offer ar ddyledion hŷn ac achosion trawsffiniol: gwybodaeth gyfreithiol leol, trafodaethau yn iaith a diwylliant y dyledwr a barn onest o'r hyn y gellir ei adennill yn realistig. Po gynharaf y bydd arbenigwr yn ymgysylltu, uchaf oll yw'r gyfradd adfer, oherwydd bod dyled yn heneiddio fel llaeth, nid gwin.

Dylai tyfu eich sylfaen cwsmeriaid fod y bennod orau yn hanes eich busnes. Y busnesau sy'n ei mwynhau yw'r rhai sy'n trin amddiffyn llif arian yn rhan o'r cynllun twf, nid yr ôl-nodyn a ysgrifennir ar ôl y ddyled ddrwg gyntaf. Eich tîm gwerthu sy'n ennill y refeniw. Gwnewch yn siŵr bod eich disgyblaeth credyd yn ei gadw.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.